2 Chronicles 31:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r ARGLWYDD eu DUW, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi ei osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn ninasoedd Jwda degwm o wartheg a defaid, ac o'r pethau cysegredig a gysegrwyd i'r ARGLWYDD eu Duw, a'u gosod yn bentyrrau.