2 Chronicles 32:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i'w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o'i ymysgaroedd ei hun a'i lladdasant ef yno â'r cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn anfon angel a lladd holl filwyr, capteniaid a swyddogion byddin Asyria. Ac roedd rhaid i Sechareia fynd yn ôl i'w wlad ei hun wedi ei gywilyddio. Aeth i mewn i deml ei dduw, a dyma rai o'i feibion ei hun yn ei daro i lawr a'i ladd gyda'r cleddyf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac anfonodd yr ARGLWYDD angel a lladd pob gwron, arweinydd a chapten yng ngwersyll brenin Asyria. Dychwelodd yntau mewn cywilydd i'w wlad. A phan aeth i du375? ei dduw, lladdwyd ef yno 'r cleddyf gan rai o'i blant ei hun.