2 Chronicles 32:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon, y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad, DUW a'i gadawodd ef, i'w brofi ef, i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan anfonodd swyddogion Babilon negeswyr ato i'w holi am yr arwydd oedd wedi digwydd yn y wlad, dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo, i'w brofi a gweld beth oedd ei gymhellion go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd yn oed pan anfonwyd negeswyr ato gan swyddogion Babilon i holi ynghylch yr arwydd a welwyd yn y wlad, gadawodd Duw lonydd iddo er mwyn ei brofi a gwybod y cwbl oedd yn ei galon.