2 Chronicles 32:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Heseceia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fu Heseceia farw, dyma nhw'n ei gladdu yn rhan bwysicaf y fynwent i ddisgynyddion Dafydd. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem yno i'w anrhydeddu pan gafodd ei gladdu. A dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu farw Heseceia, ac fe'i claddwyd ar y bryn lle mae beddau disgynyddion Dafydd. Pan fu farw, talodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem deyrnged iddo, a daeth ei fab Manasse yn frenin yn ei le.