2 Chronicles 32:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a'i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma'r brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd trwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a thariannau hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymroes y brenin i ailadeiladu pob rhan o'r mur oedd wedi ei ddryllio, a chodi ar y tyrau ac adeiladu mur arall ar yr ochr allan. Cryfhaodd y Milo yn Ninas Dafydd a gwneud llawer o arfau a tharianau.