2 Chronicles 32:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a'i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ddiweddarach, pan oedd Senacherib brenin Asyria a'i holl fyddin yn gwarchae ar Lachis, anfonodd ei weision i Jerwsalem gyda'r neges hon i Heseceia brenin Jwda a phawb o Jwda oedd yn Jerwsalem: