2 Chronicles 33:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du'r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a'i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn adeiladodd fur allanol i Ddinas Dafydd yn y dyffryn i'r gorllewin o Gihon hyd at fynedfa Porth y Pysgod, ac amgylchu Offel a'i wneud yn uchel iawn. Gosododd hefyd swyddogion milwrol yn holl ddinasoedd caerog Jwda.