2 Chronicles 33:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu'r nefoedd, ac a'u gwasanaethodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a polion i'r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i'r Baalim a gwneud delwau o Asera, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.