2 Chronicles 33:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ DDUW, am yr hwn y dywedasai DUW wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! — y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth ddelw gerfiedig a'i gosod yn y deml y dywedodd Duw amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, "Yn y tu375? hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw'n dragwyddol.