2 Chronicles 34:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i'r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi'r sgrôl yma i mi.” A dyma fe'n darllen ohoni i'r brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, "Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi"; a darllenodd Saffan ef i'r brenin.