2 Chronicles 34:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid i'th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen DUW, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o'm blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma. Am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am i'th galon dyneru ac iti ymostwng o flaen Duw pan glywaist ei eiriau am y lle hwn a'i drigolion, am iti ymostwng ac wylo o'i flaen, a rhwygo dy ddillad, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.