2 Chronicles 34:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio DUW Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd, a'r llwyni, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech mlwydd oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem trwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yntau'n dal yn llanc ifanc, dechreuodd geisio Duw ei dad Dafydd. Yn y ddeuddegfed flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem o'r uchelfeydd, y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd.