2 Chronicles 34:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr ARGLWYDD, ar rodio ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a'i dystiolaethau, a'i ddefodau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau 'i holl galon ac 'i holl enaid, ac i gyflawni geiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn.