2 Chronicles 34:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a'r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnodd ddinistrio allorau'r Baalim, a thorrodd i lawr yr allorau arogldarth a oedd uwch eu pen; drylliodd yn chwilfriw y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd; malodd hwy'n yfflon a thaenu eu llwch hyd wyneb beddau y rhai a fu'n aberthu iddynt.