2 Chronicles 34:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ DDUW, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi ei gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi ei gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i du375? Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem.