2 Chronicles 35:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu'r poethoffrymau a'r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid meibion Aaron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd rhaid i'r Lefiaid baratoi ar gyfer eu hunain a'r offeiriad. Roedd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn dal i losgi'r offrymau a'r braster pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, sef disgynyddion Aaron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna paratoesant ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr offeiriaid, oherwydd yr oedd yr offeiriaid, meibion Aaron, wedi bod yn aberthu'r poethoffrwm a'r offrymau o fraster hyd yr hwyr. Fel hyn y paratdd y Lefiaid ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, meibion Aaron.