2 Chronicles 35:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i'r Pasg a gynhaliodd Joseia, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a holl Jwda, a'r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd Pasg tebyg ddim wedi ei gadw yn Israel ers cyfnod y proffwyd Samuel. Doedd dim un o frenhinoedd Israel wedi cynnal Pasg tebyg i'r un yma. Roedd y brenin Joseia, yr offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel i gyd yno, heb sôn am bawb oedd yn byw yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chadwyd Pasg fel hwn yn Israel er dyddiau Samuel y proffwyd, ac ni chadwodd yr un o frenhinoedd Israel y Pasg fel y cadwodd Joseia ef gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, pawb oedd yn bresennol o Jwda ac Israel, a thrigolion Jerwsalem.