2 Chronicles 35:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a anfonodd genhadau ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a DUW a archodd i mi frysio: paid di â DUW, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Necho yn anfon negeswyr ato, “Beth sydd gan hyn i'w wneud â ti, frenin Jwda? Dw i ddim yn ymosod arnat ti; teyrnas arall dw i'n ei rhyfela. Mae Duw gyda mi, ac wedi dweud wrtho i am frysio, felly stopia ymyrryd rhag i mi dy ddinistrio di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond anfonodd Necho negeswyr ato i ddweud, "Beth sydd a wnelwyf fi thi, brenin Jwda? Nid yn dy erbyn di yr wyf fi wedi dod yma heddiw, ond i ymladd yn erbyn teyrnas arall. Dywedodd Duw wrthyf am frysio, a phaid ti rhwystro'r Duw sydd gyda mi, rhag iddo dy ddifa."