2 Chronicles 35:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly ei weision a'i tynasant ef o'r cerbyd, ac a'i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'i weision yn ei symud o'i gerbyd i gerbyd arall, a mynd ag e yn ôl i Jerwsalem. Ond bu farw, a cafodd ei gladdu ym mynwent ei hynafiaid. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem i gyd yn galaru ar ei ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tynnodd ei weision ef allan o'r cerbyd, a'i roi yn ei ail gerbyd a mynd ag ef i Jerwsalem. Bu farw yno ac fe'i claddwyd ym meddrod ei hynafiaid, a galarodd holl Jwda a Jerwsalem amdano.