2 Chronicles 35:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i'r ARGLWYDD, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr ARGLWYDD eich DUW, a'i bobl Israel,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fe'n dweud wrth y Lefiaid oedd i ddysgu pobl Israel am yr offrymau a'r aberthau oedd i'w cysegru i'r ARGLWYDD, “Gosodwch yr Arch Sanctaidd yn y deml wnaeth Solomon, mab Dafydd brenin Israel, ei hadeiladu. Does dim angen i chi ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr rhowch eich hunain i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth y Lefiaid oedd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD ac yn dysgu holl Israel, "Rhowch yr arch sanctaidd yn y tu375? a adeiladodd Solomon fab Dafydd, brenin Israel; nid ydych i'w chario ar eich ysgwyddau. Yn awr, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel.