2 Chronicles 36:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i DDUW: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at ARGLWYDD DDUW Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a penstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrthryfelodd hefyd yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar, a oedd wedi gwneud iddo dyngu i Dduw. Ystyfnigodd a chaledodd ei galon rhag dychwelyd at yr ARGLWYDD, Duw Israel.