2 Chronicles 36:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â'r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn, na hen, na'r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a'u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed — y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo eu lladd nhw i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd frenin y Caldeaid i fyny yn eu herbyn, a lladdodd hwnnw eu gwu375?r ifainc 'r cleddyf yn eu cysegrle, heb arbed na llanc na morwyn, na'r hen na'r oedrannus; rhoddodd bob un ohonynt yn ei afael.