2 Chronicles 4:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;