2 Chronicles 4:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i'r offeiriaid i ymolchi ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a pump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno'r aberthau oedd i'w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y mr yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi.