2 Chronicles 4:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur.