2 Chronicles 5:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â'u meibion hwynt, ac â'u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion — Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr — yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr holl Lefiaid, sef y cantorion oedd yn perthyn i Asaff, Heman a Jeduthun, a'u meibion a'u brodyr, wedi eu gwisgo mewn lliain main ac yn sefyll i'r dwyrain o'r allor gyda symbalau, nablau a thelynau; ac yr oedd cant ac ugain o offeiriaid yn canu trwmpedau wrth eu hymyl.