2 Chronicles 5:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r ARGLWYDD a chanu'r geiriau, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Tra roedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion yn uno mewn mawl a chlod i'r ARGLWYDD ac yn seinio trwmpedau, symbalau ac offer cerdd er moliant iddo, gan ddweud, "Yn wir da yw, ac y mae ei gariad hyd byth", llanwyd tu375?'r ARGLWYDD gan gwmwl.