2 Chronicles 6:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr cyfod, O ARGLWYDD DDUW, i'th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O ARGLWYDD DDUW, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A nawr, o ARGLWYDD Dduw, dos i fyny i dy gartref — ti a dy Arch bwerus! Ac ARGLWYDD Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfod, yn awr, O ARGLWYDD Dduw, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. Bydded dy offeiriaid, O ARGLWYDD Dduw, wedi eu gwisgo ag iachawdwriaeth, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu yn eu llwyddiant.