2 Chronicles 7:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a'r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu DUW trwyddynt hwy: a'r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi eu gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra roedd y dyrfa yn sefyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr offeiriaid yn sefyll ar ddyletswydd, a'r Lefiaid hefyd, gyda'r offerynnau cerdd a wnaeth y Brenin Dafydd i foliannu'r ARGLWYDD pan fyddai'n canu mawl a dweud, "Oherwydd y mae ei gariad hyd byth." Gyferbyn hwy yr oedd yr offeiriaid yn canu utgyrn, a'r holl Israeliaid yn sefyll.