2 Chronicles 9:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario sbeisiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i Jerwsalem i'w brofi chwestiynau caled. Cyrhaeddodd gyda gosgordd niferus iawn camelod yn cludo peraroglau a str fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,