2 Chronicles 9:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoethineb:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir — yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Addefodd wrth y brenin, "Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ti a'th ddoethineb.