2 Chronicles 9:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto ni choeliais i'w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i'm llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb mawr yn fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld 'm llygaid fy hun ac wele, ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais.