2 Corinthians 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a’ n gwaredawdd ni ywrth gyfryw ddirvawr angeu, ac ’sy yn ein gwaredu: yn yr hwn y gobeithiwn, in gwared a rhac llaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr yn Nuw yr Hwn sy’n cyfodi’r meirw; yr Hwn, o’r cyfryw ddirfawr farwolaeth a’n gwaredodd, ac a’n gweryd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ef a’n gwaredodd o’r gyfryw farwolaeth ac a’n gweryd. Ynddo ef y gosodasom ein gobaith y bydd iddo eto ein gwaredu rhagllaw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaredodd ef ni gynt oddi wrth y fath berygl marwol, ac fe'n gwared eto; ynddo ef y mae ein gobaith. Fe'n gwared eto,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a'n gwaredodd ni allan o'r cyfryw ddirfawr farwolaeth, ac a'n gwared: yn yr hwn yr ydym wedi gobeithio y gwared ni etto hefyd,