2 Corinthians 1:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’s chvvy chwi a gydweithiwch yn‐gweddi trosam, pan yw tros y dawn a roddet y ni er mvvyn llawer, bod roi diol vv ch gan lawer dyn y trosam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr Hwn y gobeithiwn y gweryd ni etto hefyd, a chwithau hefyd yn cyd-gynnorthwyo trosom â gweddi, fel am y rhodd i ni trwy weddi llawer o bersonau, y rhodder diolch gan lawer trosom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chwithau hefyd yn cydweithio o’n plaid drwy weddi, fel gan lawer o bersonau y diolcher drosom gan lawer am y gymwynas rasol a ddaeth i’n rhan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
wrth i chwithau ymuno i'n cynorthwyo 'ch gweddi, ac felly bydd ein gwaredigaeth raslon, trwy weddi llawer, yn destun diolch gan lawer ar ein rhan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chwychwi yn cyd‐gynorthwyo ar ein rhan trwy eich deisyfiad, fel, am y rhodd a rodded i ni trwy lawer, y rhoddid diolch trosom gan lawer o bersonnau.