2 Corinthians 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ein gorvoledd ni yw hyn, sef testiolaeth ein cydwybot, can ys yn symlder a’ duwiol burdep, ac nyd yn‐doethinep cnawdawl, any d gan rat Duw y bu i ni ymgydtro yn y byt, ac yn ben ddivaddef tu ac ato‐chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ein hymffrost yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod mai mewn sancteiddrwydd a symlrwydd duwiol, nid mewn doethineb cnawdol eithr yng ngras Duw yr ymddygasom yn y byd, a mwy tros fesur tuag attoch chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys hyn yw ein hymffrost ni — tystiolaeth ein cydwybod mai yn sancteiddrwydd a didwylledd Duw, nid mewn doethineb cnawdol ond yng ngras Duw y rhodiasom yn y byd, ac yn arbennig felly yn ein perthynas â chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma yw ein hymffrost ni: bod ein cydwybod yn tystio bod ein hymddygiad yn y byd, a mwy byth tuag atoch chwi, wedi ei lywio gan unplygrwydd a didwylledd duwiol, nid gan ddoethineb ddynol ond gan ras Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ein hymffrost ni yw hyn, tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn sancteiddrwydd a'r purdeb sydd o Dduw, nid mewn doethineb cnawdol, ond yng ngras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ac yn helaethach tuag attoch chwi.