2 Corinthians 1:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef megis y cydnabuoch ni o ran, ein bot yn orvoledd ychwi, megis ac ydd yw chwi the i ni nheu, yn‐dydd yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gobeithiaf mai hyd y diwedd y cydnabyddwch; fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai eich ymffrost ydym, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn nydd ein Harglwydd Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis hefyd y’n deallasoch ni’n rhannol, mai testun ymffrost i chwi ydym megis hefyd yr ydych chwithau i ni yn nydd ein Harglwydd Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel yr ydych eisoes wedi deall yn rhannol amdanom, y byddwn ni yn destun ymffrost i chwi yn union fel y byddwch chwi i ninnau yn Nydd ein Harglwydd Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich ymffrost chwi, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn Nydd ein Harglwydd Iesu.