2 Corinthians 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny pan oeddwn yn amcanu val hyn, a arverwn i o yscavnder? neu wyfi yn amcanu y petheu ’r wy ’n amcanu, erwdd y cnawd, val y byddei gyd a myvi, Do, do, ac Na ddo, na ddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrth ewyllysio hyn, ynte, ai ysgafnder yn wir a arferais? Y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu fel y byddai gyda mi yr Ie, ïe, a’r Nage, nage?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth lunio’r bwriad hwn ai arfer gwamalrwydd a wneuthum wedi’r cwbl, tybed? Ai yn ôl y cnawd, tybed, y bwriedir yr hyn a fwriadaf, fel y bo Ie Ie a Nage Nage ger fy mron?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, ie, a nage, nage?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os hyn oedd fy mwriad, a fm yn wamal? Neu ai fel dyn bydol yr wyf yn gwneud fy nhrefniadau, nes medru dweud "Ie, ie" a "Nage, nage" ar yr un anadl?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny pan yn chwennych hyn, a arferais i yn wir ysgafnder o gwbl? Neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi yr Ië, Ië, a'r Nage, Nage?