2 Corinthians 1:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef ys ffyddlon yw Duw, na bu ein gair tu ac atoch, Do, ac Na ddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond fel mai ffyddlawn yw Duw, ein hymadrodd wrthych nid yw “Ie” a “Nage:” canys Mab Duw, Iesu Grist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel mai ffyddlon yw Duw nid yw ein hymadrodd ni yn ei berthynas â chwi yn Ie ac yn Nage.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ffyddlon yw Duw, a'n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nac ydw — mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fel y mae Duw'n ffyddlon, nid "Ie" a "Nage" hefyd yw ein gair ni i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr ffyddlawn yw Duw fod ein hymadrodd ni wrthych chwi nid yn Ië a Nage.