2 Corinthians 1:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Map Duw Iesu Christ yr hwn a precethwyt yn eich plith chvvi genym ni, ’sef my vi, a’ Siluanus a’ T h imoth e us, ny d ytoedd, Do, ac Na ðo: eithyr yndo ef, Do y doedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn a bregethwyd yn eich plith genym, genyf fi a Silfanus a Thimothëus, nid ydoedd “Ie” a “Nage,” eithr “Ie” ydoedd ynddo Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys mab Duw, Crist Iesu, a bregethwyd yn eich plith gennym ni — gennyf i a Silfanws a Thimotheus — nid Ie a Nage ydoedd eithr Ie a ddaeth ynddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith — sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd Mab Duw, Iesu Grist, a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gan Silfanus a Timotheus a minnau, nid oedd ef yn "Ie" ac yn "Nage". "Ie" yw'r gair a geir ynddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gennyf fi a Silvanus a Thimotheus, nid ydoedd Ië a Nage, eithr y mae wedi dyfod yn Ië ynddo ef.