2 Corinthians 1:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd can eyn bot yn arglwyðiaw ar eich ffyð chvvi, any d ein bot yn ganhorthwywyr ich llawenyð: can ys gan ffydd y sefwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, eithr cyd-weithwyr i’ch llawenydd ydym; canys trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, yn hytrach cyd-hyrwyddwyr eich gorfoledd ydym. Canys yr ydych wedi eich sefydlu yn y ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwyr i'ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dŷn ni'n dweud. Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi. Cydweithio chwi yr ydym er eich llawenydd, trwy'r ffydd yr ydych yn sefyll yn gadarn ynddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, ond yr ydym yn gyd‐weithwyr i'ch llawenydd; oblegyd trwy ffydd yr ydych yn sefyll.