2 Corinthians 1:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bēdiged ic yvv Duw ’sef Tat Arglwydd Iesu Christ, Tat y trugareddae, a’ Duw yr oll ddiddanwch,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y trugareddau a Duw pob diddanwch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y tosturiaethau a Duw pob dyddanwch,