2 Corinthians 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn a’n diðana ni yn ein ol’ ’orthrymder, val y gallom ðiðanu yr ei ’sy mewn dim gorthrymder, trwy ’r diddanwch in diddenir ni nheu gan Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch, yr Hwn sydd yn ein diddanu yn ein holl orthrymder, fel y gallom ddiddanu y rhai sydd ymhob gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn yr ydym ein hunain yn cael ein diddanu gan Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sy’n ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r neb a fo ym mhob rhyw orthrymder drwy’r diddanwch y’n diddanwyd ni ein hunain ag ef gan Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu'r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy'r diddanwch â'r hwn y'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn sydd yn ein dyddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddyddanu y rhai sydd ym mhob gorthrymder, trwy y dyddanwch â'r hwn y'n dyddenir ni ein hunain gan Dduw.