2 Corinthians 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy vn bynac ai in gorthrymer, er diddanwch ac ieched vvrieth y chwi ydyvv, yr hon a weithir gan ymaros yn yr vn ryw ddyoddefiadae, yr ei dd ym ni hefyd yn y dyoddef: ai diddaner ni, er diddanwch ac ieched vvrieth y chwi ydyvv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A pha un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er eich diddanwch chwi a’ ch iachawdwriaeth y mae; neu ein diddanu yr ydys, er eich diddanwch chwi y mae, yr hwn sy’n gweithio yng
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os ydym, ar y naill law, mewn gorthrymder, er mwyn eich diddanwch a’ch iachawdwriaeth chwi y mae hynny; ond os ydym, ar y llaw arall, yn cael ein diddanu, y mae hynny hefyd er mwyn eich diddanwch chwi, sy’n gweithredu mewn amynedd o dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ninnau yn eu dioddef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dŷn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os gorthrymir ni, er mwyn eich diddanwch chwi a'ch iachawdwriaeth y mae hynny; neu os diddenir ni, er mwyn eich diddanwch chwi y mae hynny hefyd, i'ch nerthu i ymgynnal dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pa un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae, yr hwn sydd yn gweithio yng ngoddefiad dewr yr un dyoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef,