2 Corinthians 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae ein gobeith yn ffyrf am danoch, can y ni wybot megis ac ydd ych’ yn gyfranoc ion o’r dyoddefiadae, velly y byddvvch hefyt gyfranoc o’r diddanwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ngoddefiad yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef. Ac ein gobaith sydd ddiymmod am danoch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae ein gobaith amdanoch yn gadarn gan ein bod yn gwybod mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly hefyd yr ydych o’r diddanwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o'r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r diddanwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dŷn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae sail sicr i'n gobaith amdanoch, oherwydd fe wyddom fod i chwi gyfran yn y diddanwch yn union fel y mae gennych gyfran yn y dioddefiadau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae; gan wybod mai, megys yr ydych yn gyfrannogion o'r dyoddefiadau, felly hefyd yr ydych o'r dyddanwch.