2 Corinthians 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys vroder, ny vynē ywch’ anwybot am ein gorthrymdr, y vu i ni yn yr Asia, sef val y pwyswyt arnam yn anveidrawl dros ben ein gallu, megis ydd oeddem‐mewn‐trachyfing-gyngor, ac am yr einioes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod o honom fel mai cyfrannogion ydych o’r dioddefiadau, felly hefyd yr ydych o’r diddanwch. Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddigwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, a thu hwnt i’n gallu y pwyswyd arnom,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, parthed y gorthrymder a ddaeth i’n rhan yn Asia, mai dros fesur a thu hwnt i’n gallu y’n llethwyd nes anobeithio ohonom hyd yn oed gael byw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym am i chwi wybod, gyfeillion, am y gorthrymder a ddaeth i'n rhan yn Asia, iddo ein trechu a'n llethu mor llwyr nes inni anobeithio am gael byw hyd yn oed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddygwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, tu hwnt i'n gallu, y pwyswyd yn drwm arnom, nes i ni anobeithio yn hollol hyd y nod i gael byw;