2 Corinthians 1:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Do, ni a dd erbyniesam varn angeu ynam, val na ’obeithem ynam ein hunain, any d yn ‐Duw, yr hwn a gyvyd y meirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
hyd onid oeddym yn anobeithio hyd yn oed o fyw; eithr ni ein hunain, ynom ein hunain yr oedd genym atteb marwolaeth fel na byddem yn ymddiried ynom ein hunain,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr nyni ein hunain a gawsom ynom ein hunain ddedfryd angau, fel na byddem â’n hymddiried ynom ein hunain ond yn hytrach yn Nuw, cyfodwr y meirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi'r meirw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a'n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Do, teimlasom ynom ein hunain ein bod wedi derbyn dedfryd marwolaeth; yr amcan oedd ein cadw rhag ymddiried ynom ein hunain, ond yn y Duw sy'n cyfodi'r meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ië, yr ydym ni ein hunain wedi cael ynom ein hunain yr atteb o farwolaeth, fel na fyddem yn ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw;