2 Corinthians 10:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys na vaiddiwn ymgynwys, nau ymgyffelypu a ryvv rei ys y yn eu canmol yh vnain: eithyr nyd y y n yn dyal’ eu bot yn mesuro vnain wrthyn y vnain, ac yn cyffelypu y vnain ac yn hwy y vnain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys nid ydym yn beiddio cyfrif, neu gymharu, ein hunain â’r rhai sydd yn eu canmol eu hunain; eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cymharu eu hunain â’u hunain, heb ddeall y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni feiddiwn ein rhestru ein hunain ymhlith rhai o’r rheini sy’n eu cymeradwyo eu hunain na’n cymharu ein hunain â hwynt. Ond nid ydynt hwy, wrth eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac wrth eu barnu eu hunain wrthynt eu hunain, yn dangos deallgarwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu'n hunain a rhoi'n hunain yn yr un dosbarth â'r rhai hynny sy'n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid ydym yn beiddio cystadlu na'n cymharu ein hunain 'r rhai sydd yn eu canmol eu hunain. Pobl heb ddeall ydynt, yn eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac yn eu cymharu eu hunain hwy eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid ydym yn beiddio cyfrif ein hunain ym mhlith neu gymharu ein hunain â rhai ydynt yn canmol eu hunain; ond hwynthwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cymharu eu hunain â hwy eu hunain, ydynt heb ddeall;