2 Corinthians 10:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr nyd ymhoffwn ni am betheu, nyd y yn o vewn ein mesur, any d erwydd mesur y Reol, rhon y rhanawdd Duw i ni hei mesur y ymgyrhaeddy d ac yd atoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nyni, nid hyd at bethau allan o’n mesur yr ymffrostiwn, eithr yn ol mesur y llinell a rannodd Duw i ni megis mesur, i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond nyni nid ymffrostiwn yn ddifesur, eithr yn ôl mesur y rhandir a rannodd Duw yn fesur i ni y cyraeddasom hyd atoch chwithau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o'n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i'w wneud â ni. Dŷn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi ei roi i ni — ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni fydd ein hymffrost ni y tu hwnt i'n mesur; fe'i cedwir o fewn mesur y terfyn a bennodd Duw i ni, sy'n cyrraedd hyd atoch chwi hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr nid ymffrostiwn ni tuhwnt i'n mesur, ond yn ol mesur y cylch, yr hwn fel mesur a rannodd Duw i ni, i gyrhaeddyd hyd y nod attoch chwi;