2 Corinthians 10:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nyd yn ym ffrostio o petheu divesur i ni: ’sef am dravaelion rei eraill: a’ gobeithiwn, gwedy ’r angwanego eich ffydd, gael ein mawrygu genny‐chwi erwydd ein rheol yn ehelaeth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid gan ymffrostio hyd at bethau allan o’n mesur yn llafur rhai eraill; ond a chenym obaith, wrth gynnyddu o’ch ffydd, o gael ein mawrygu ynoch chwi yn ol ein llinell hyd helaethrwydd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid ydym yn rhedeg i eithafion gan ymffrostio yn ymdrechion llafurus pobl eraill, eithr gobeithio yr ydym y bydd cynnydd dirfawr yn ein rhandir trwy gynnydd eich ffydd chwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid gan fostio hyd at bethau allan o'n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i'ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydym yn ymffrostio y tu hwnt i'n mesur, hynny yw, ar bwys llafur pobl eraill. Ond gobeithio yr ydym, fel y bydd eich ffydd chwi yn mynd ar gynnydd, y bydd ein gwaith yn eich plith yn helaethu'n ddirfawr, o fewn ein terfynau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid gan ymffrostio tu hwnt ein mesur, sef yn llafur rhai eraill, eithr gan fod gennym obaith, fel y cynnyddo eich ffydd, y cawn ein mawrygu ynoch chwi yn helaethach yn ol ein cylch,