2 Corinthians 10:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nyd yr hwn y canmol y hun an, ys ydd gymradwy, any n yr hwn y mae ’r Arglwydd yn ei ganmol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid y sawl sy’n ei gymeradwyo ei hun sydd dderbyniol ond y sawl y mae’r Arglwydd yn ei gymeradwyo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae'r Arglwydd yn ei ganmol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid y sawl sydd yn ei ganmol ei hunan, ond y sawl y mae'r Arglwydd yn ei ganmol, sy'n gymeradwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.